Y Bont-ddu

pentref yng Ngwynedd

Treflan yng nghymuned Llanelltud, Gwynedd, Cymru, yw Y Bont-ddu[1] neu Bontddu[2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Ardudwy yn ne'r sir, ar lan ogleddol afon Mawddach tua 3 milltir i gyfeiriad y gorllewin o dref Dolgellau. Mae briffordd yr A496 yn rhedeg trwy'r Bont-ddu, a enwir ar ôl pont sy'n dwyn y ffordd honno dros afon Cwm Llechen. Mae'r ffordd yn cysylltu Bontddu ag Abermaw i gyfeiriad y gorllewin a Llanelltud, ger Dolgellau, i'r cyfeiriad arall.

Y Bont-ddu
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7514°N 3.9676°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH673189 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae lôn gul yn rhedeg i fyny i gyfeiriad bryniau'r Rhinogydd i'r gogledd o'r pentref.

Y Bont-ddu a glannau Mawddach o Gader Idris
Cert mwyn aur o waith aur y Clogau, Y Bont-ddu; yn cael ei ddefnyddio fel pot blodau (2018)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 8 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU