Pentref bychan yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw Rhos-y-gwaliau ("Cymorth – Sain" ynganiad ), a leolir tua milltir a hanner i'r de-ddwyrain o'r Bala. Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau'r Berwyn. Mae ffrwd Hirnant yn llifo o grib y Berwyn i lawr i ymuno yn Afon Dyfrdwy gan ffurfio Cwm Hirnant; saif y pentref yn rhan isaf y cwm cul hwnnw.

Rhos-y-gwaliau
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangywer Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.899°N 3.571°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Ceir capel Methodistaidd Rhos-y-gwaliau yn y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato