Friog

pentref yng Ngwynedd

Pentrefan yng Ngwynedd yw'r Friog[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ),[2] sydd oddi fewn igymuned Arthog yn sir hanesyddol Meirionnydd. Saif ger priffordd yr A493 rhwng Dolgellau a Thywyn. Mae ar ochr ddeheuol aber y Mawddach, gyferbyn a thref Abermaw.

Friog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.691°N 4.049°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH618125 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r Friog oddeutu 91 milltir o Gaerdydd, a'r dref agosaf yw Abermaw (2 filltir) fel ehed y frân neu drwy dramwyo Pont Abermaw; y dref agosaf ar y ffordd fawr yw Dolgellau (9 milltir) a'r ddinas agosaf yw Bangor. Mae'r Friog hefyd yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri.

Yr enw golygu

Defnyddir Friog weithiau fel enw Cymraeg Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae'r Friog yn bentref ar wahân. Gelwid yr ardal yn "Morfa Henddol" cyn adeiladu Fairbourne, a chredir fod yr enw "Rowen" wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg. Ynys Faig oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal lle saif y Fairbourne Hotel bellach.[3][4] Sefydlwyd Fairbourne gan Arthur McDougall, o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.

Gwasanaethau golygu

Gwleidyddiaeth golygu

Cynrychiolir y Friog yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru".
  2. "Gwybodaeth am y lleoliad gan yr Arolwg Ordnans". Ordnance Survey. Cyrchwyd 23 Awst 2022.
  3. "History of Fairbourne Village | Return to the Ferry". www.return2ferry.co.uk. Cyrchwyd 2022-09-20.
  4. "Cymraeg". Coflein (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-20.
  5. Cymru, G. I. G. (2006-10-23). "GIG Cymru | Chwiliad Côd Post". www.wales.nhs.uk. Cyrchwyd 2022-08-23.[dolen marw]
  6. "Dod o hyd i Aelod o'r Senedd". senedd.cymru. Cyrchwyd 2022-08-23.