Tabor

pentrefan yng Ngwynedd

Pentrefan yng Ngwynedd, Cymru, yw Tabor ("Cymorth – Sain" ynganiad ); (Saesneg: Tabor).[1] Mae'n rhan o sir hanesyddol Sir Feirionnydd ac yn eistedd o fewn cymuned Dolgellau. Mae Tabor oddeutu 92 milltir o Gaerdydd, a'r dref agosaf yw Dolgellau (1 filltir). Y ddinas agosaf yw Bangor. Mae'r lle hwn hefyd yn rhan o Parc Cenedlaethol Eryri.

Tabor
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDolgellau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.740095°N 3.851671°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7517 Edit this on Wikidata
Map

Gwasanaethau

golygu

Capel y Crynwyr

golygu

O ganol y 17C fe fu ardal Dolgellau, yn ganolfan o bwys i'r enwad crefyddol y Crynwyr. Wedi dioddef erledigaeth chwerw gan awdurdodau'r wladwriaeth Brydeinig, ymfudodd llawer ohonynt i Pennsylvania, a thrwy hynny gwanychodd eu hachos yn yr ardal. Sefydlodd y Crynwyr Tŷ Cyfarfod a mynwent yn Nhabor. Ym 1851 prynwyd y Tŷ Cyfarfod gan yr Annibynwyr i'w defnyddio fel capel. Mae'r capel yn dal i gael ei hadnabod fel Capel y Crynwyr neu Gapel y Cwacers gan drigolion yr ardal hyd heddiw.[3]

Gwleidyddiaeth

golygu

Cynrychiolir Tabor yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwybodaeth am y lleoliad gan yr Arolwg Ordnans". Ordnance Survey. Cyrchwyd 23 Awst 2022.
  2. Cymru, G. I. G. (2006-10-23). "GIG Cymru | Chwiliad Côd Post". www.wales.nhs.uk. Cyrchwyd 2022-08-23.[dolen farw]
  3. Rees, Abertawe, Thomas; Thomas, Lerpwl, John (1871). "Tabor" . Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1. Lerpwl: Swyddfa'r Tyst. t. 461.
  4. "Dod o hyd i Aelod o'r Senedd". senedd.cymru. Cyrchwyd 2022-08-23.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato