Pant Glas

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Pantglas)

Pentref yng nghymuned Clynnog, Gwynedd, Cymru, ydy Pant Glas[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Pant-glas neu Pantglas. Saif ar yr hen A487 yn Nyffryn Nantlle. Llifa Afon Dwyfach heibio i'r pentref.

Pant Glas
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53°N 4.278°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH471473 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Pantglas (gwahaniaethu).

Trafnidiaeth golygu

Ar un adeg roedd gorsaf reilffordd yma, ar y lein o Gaernarfon i Afon-wen; fe'i chaewyd ym mis Rhagfyr 1964.

Nes adeiladu ffordd osgoi Llanllyfni, roedd llawer iawn o draffic yn teithio tryw'r pentref ac roedd cyfymder ucha o 50 milltir yr awr. Gostyngwyd hyn i 40 milltir yr awr yn 2005 gan wneud y pentref yn lle llawer mwy pleserus i fyw.[2]

Mae llwybr beic Lôn Eifion, rhan o Lôn Las Cymru, hefyd yn pasio drwy'r pentref, yn dilyn llwybr hen reilffordd Caernarfon i Afon Wen. Mae'r llwybr yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Sustrans erbyn hyn.

Addysg golygu

Arferai rhai o blant yr ardal pentref fynychu Ysgol Ynys-yr-arch ym Mwlch derwin nes i honno gau,; erbyn hyn, mynycha rhai o blant y pentref Ysgol Gynradd Garndolbenmaen gerllaw cyn symyd ymlaen i ysgolion uwchradd Eifionydd neu Ddyffryn Nantlle.

Pobl o Bantglas golygu

  • Bryn Terfel. Ganwyd ef ym Mhant Glas a magwyd ef ar fferm Nant Cyll Uchaf. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Pant Glas, Gwynedd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2005.[dolen marw]