Wicipedia:Wicibrosiect Wici-Iechyd

Croeso i'r dudalen Prosiect Wici-Iechyd, prosiect sy'n cael ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a Wikimedia UK
Logo y prosiect
Calon ddynol


Mae’r Wicipedia Cymraeg yn cynnwys dros 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wici-Iechyd yw ychwanegu 3,000 o erthyglau newydd (a gwella eraill) mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi cynnwys yn yr iaith Gymraeg ar bynciau perthnasol i iechyd a gwyddorau bywyd.

Y prosiect golygu

Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect 9 mis o hyd, i hyfforddi golygyddion i greu a gwella erthyglau Wicipedia am iechyd a materion meddygol.

Y nod yw creu 3,000 o erthyglau newydd mewn cwta naw mis - gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o 'Olygathonau' a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.

Bydd aelodau o'r cyhoedd a'n sefydliadau'n cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio'r broses o greu erthyglau Wicipedia gan ddefnyddio data.

Byddwn hefyd yn cydweithio efo gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a iaith er mwyn safoni termau meddygol Cymraeg, gan ychwanegu'r termau cymraeg i Wicidata.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni, neu nodwch eich diddordeb isod.

Digwyddiadau golygu

  • Gweithdy ar y cyd gyda WiciCaerdydd yn Yr Hen Lyfrgell, 18:00-20:00, Nos Iau 7 Rhagfyr 2017

Tasgau golygu

Dyma restr o dasgau i'w cwblhau.

Cyfieithu golygu

Mae Wikiproject:Medicine wedi creu rhestr o 800 o erthyglau Saesneg efo cyflwyniad sy'n addas i'w cyfieithu er mwyn cychwyn yr erthyglau mewn gwahanol ieithoedd. Mae modd cychwyn ar y gwaith yma

Adnoddau golygu

Syniadau pellach am erthyglau golygu

Mae croeso i unrhyw un nodi syniadau am erthyglau neu ffynonellau ar gyfer cynnwys.

Mae rhai eitemau (mewn coch) ar y Rhestr o organau'r corff dynol sydd angen erthyglau.

Erthyglau newydd golygu

Os ydych yn creu erthyglau Cymraeg newydd ar bynciau perthnasol i iechyd neu wyddorau bywyd yn ystod cyfnod y prosiect ychwanegwch y Categori:Prosiect Wici-Iechyd ar waelod yr erthygl a nodwch deitl yr erthygl yma. columns-list

Wedi gwella golygu

Diagramau Cymraeg newydd golygu

Tablau
Diagram Lleoliad Pwrpas/Gwaith
Epitheliwm syml, cenog
(Simple squamous epithelium)
 
Leining y galon, pibellau gwaed, y lymff a'r ysgyfaint. Secretu hylif irad a ffiltro deunyddiau mân.
Epitheliwm syml, ciwboid
(Simple cuboidal epithelium)
 
Chwarennau bychan a phibellau'r iau. Sectredu ac amsugno.
Epitheliwm syml, colofnog
(Simple columnar epithelium)
 
Bronci, pebelli'r wterws (y groth), y colon a'r bledren. Amsugno. Mae hefyd yn secredu mwcws ac ensymau.
Epitheliwm colofnog, ffug-haenedig
(Pseudostratified columnar epithelium)
 
Pibell wynt (trachea) a'r pibellau anadlu uchaf. Secretu a symud mwcws.
Epitheliwm cenog haenog
(Stratified squamous epithelium)
 
Leining yr oesoffagws, y geg a'r wain (fagina). Iro, ac amddiffyn rhag sgriffinio.
Pithelium trawsnewidiol
(Transitional epithelium)
 
Y bledren a'r wrtha a phibell yr aren Caniatau i'r organau troethol chwyddo ac ymestyn.

Aelodau'r prosiect golygu

Dyma restr o gyfranwyr ar y prosiect. Mae croeso i chi ychwanegu eich henw at y rhestr.

  • Ychwanegwch eich enw defnyddiwr yma...