Y Bala
Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,999 (2021),[1] 1,974 (2011),[2] 1,993 (2021)[3].
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,999, 1,974, 1,993 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 241.94 ha |
Yn ffinio gyda | Llanuwchllyn |
Cyfesurynnau | 52.911°N 3.596°W |
Cod SYG | W04000045 |
Cod OS | SH925359 |
Cod post | LL23 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
- Gweler hefyd Bala (gwahaniaethu) am lefydd eraill o'r enw Bala.
Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.
Cynhaliyd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi 2017.
Tarddiad yr enw
golyguGair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd "bala" gynt,[4] a ddaeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn.[5] Yn yr achos hon cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid. Ymddengys yr elfen "bala" mewn enwau lleoedd eraill ar draws Cymru megis Baladeulyn. Yn unol ag enghreifftiau eraill o enw cyffredin a arferir yn enw lle, cafodd y fannod ei gosod o'i flaen i'w wneud yn benodol.[4]
Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.
Hanes
golyguAr un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19g. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19g, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.
Yr hinsawdd
golyguHinsawdd Bala 163m, 1971-2000 | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 6.7 (44.1) |
6.8 (44.2) |
8.7 (47.7) |
11.1 (52.0) |
14.6 (58.3) |
16.8 (62.2) |
19.1 (66.4) |
18.8 (65.8) |
16.2 (61.2) |
12.9 (55.2) |
9.4 (48.9) |
7.5 (45.5) |
12.38 (54.29) |
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 0.9 (33.6) |
0.8 (33.4) |
2.1 (35.8) |
2.8 (37.0) |
5.2 (41.4) |
8.0 (46.4) |
10.2 (50.4) |
9.8 (49.6) |
8.0 (46.4) |
5.6 (42.1) |
3.0 (37.4) |
1.6 (34.9) |
4.83 (40.70) |
Source: YR.NO[6] |
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Enwogion
golygu- Evan Lloyd (1735 – 1776) offeiriad Eglwys Loegr a bardd Cymreig yn yr iaith Saesneg
- Thomas Charles (1755-1814), arweinydd Methodistaidd ac awdur
- Roger Edwards (1811-1886), awdur a golygydd
- Owain Meirion (1803-1868), baledwr
- Benjamin William Chidlaw, (1811 - 1892) cenhadwr
- John Peter (Ioan Pedr) (1833-1877), ysgolhaig
- Michael D. Jones (1822-1898), cenedlaetholwr Cymreig, un o arloeswr Y Wladfa
Yr Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:
Oriel
golygu-
Gwesty Plas Coch tua 1875
-
Capel Saesneg y Presbyteriaid, Stryd Fawr
-
Tafarn y Llew Gwyn
-
Tafarn y Llong
-
Neuadd y Cyfnod
-
Neaudd y Cyfnod: manylyn
-
Yr Hen Ysgol, codwyd 1855
-
Bwyty a chaffi Plas y Dre
-
Porth Ystad y Rhiwlas
-
Neuadd Buddug, sinema
-
Hen fwthyn
-
Eglwys Crist
Gefeilldref
golyguMae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://gweddill.gov.wales/statistics-and-research/census-population-welsh-language/?lang=en.
- ↑ https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000045.
- ↑ "Parish Profiles". dyddiad cyrchiad: 5 Awst 2024. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. cyhoeddwyd fel rhan o'r canlynol: Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
- ↑ 4.0 4.1 Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen, Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t.11.
- ↑ bala. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Medi 2015.
- ↑ "Climate Normals 1971–2000". YR.NO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-16. Cyrchwyd 3 Maw 2011.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr