Abermaw

pentref a chymuned yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Barmouth)

Tref arfordirol a chymuned yng Ngwynedd yw Abermaw (hefyd Bermo, Abermawddach). Fe'i lleolir ger aber Afon Mawddach ar lan Bae Ceredigion yn ardal Meirionnydd; mae pont reilffordd fawr yn croesi'r afon yn ymyl y dref. Ceir hefyd yma Ganolfan Bad Achub i Ymwelwyr sydd bellach yn arddangosfa. Erys yr harbwr bychan yn brysur, yn arbennig yn yr haf; mae Ras llongau hwylio'r Tri Chopa yn galw yno'n flynyddol.

Abermaw
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,522, 2,146 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,600.34 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.722°N 4.055°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000047 Edit this on Wikidata
Cod OSSH613158 Edit this on Wikidata
Cod postLL42 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant adeiladu llongau ond erbyn heddiw tref glan môr, dwrsitaidd ydyw'n bennaf. Mae adeiladau hanesyddol y dref yn cynnwys y Tŷ Gwyn, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol ac sy'n gysylltiedig â Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, a'r carchardy Tŷ Crwn, sy'n dyddio o'r 18g. Roedd y bardd William Wordsworth yn ymwelydd cyson ag Abermaw ac yn edmygu'r golygfeydd gwych o gwmpas.

Ym 1895 cyflwynodd Fanny Talbot, un o drigolion y dref, Dinas Olau, darn o dir creigiog uwchben y dref, i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol; cymynrodd gyntaf y mudiad.

Y bont reilffordd

golygu
 
Pont reilffordd Abermaw

Mae pont reilffordd Abermaw, sy'n cludo Rheilffordd Arfordir Cymru dros Afon Mawddach, sydd hefyd yn bont droed, yn un o bontydd pren hiraf gwledydd Prydain. Cafodd y coed ei fygwth gan bry genwair toredo ond fe'i adferwyd, gan alluogi'r trenu i fynd hyd at Pwllheli. Ger pen deuheuol y bont, sydd bron i filltir o hyd, roedd Cyffordd Abermaw a ailenwyd yn 'Morfa Mawddach', lle ymunai cangen Rheilffyrdd y Cambrian o dref Dolgellau, ac felly yr holl lein o orsaf Rhiwabon, a oedd yn rhedeg trwy'r Bala a Dolgellau. Ym mhen deheuol y bont cychwynna Llwybr Dyffryn Mawddach o iard Gorsaf Morfa Mawddach.

Enwogion

golygu
 
Adeiladau ar y traeth

Cludiant

golygu

Ffordd

golygu

Mae'r briffordd A496 yn rhedeg trwy Abermaw.

Rheilffordd

golygu

Mae gorsaf Abermaw ar Reilffordd Arfordir Cymru sy'n cysylltu'r dref ag Aberystwyth i'r de (trwy Tywyn ac Aberdyfi lle gellir newid i ddal trên i gyfeiriad Amwythig), a Pwllheli i'r gogledd (trwy Ddyffryn Ardudwy, Harlech a Phorthmadog).

Bysiau

golygu

Mae gwasanaeth bws 2 Arriva (Dolgellau - Caernarfon / Bangor) yn rhedeg trwy Abermaw a cheir hefyd y gwasanaeth X94 rhwng y dref a Dolgellau.

Yn yr haf mae gwasanaeth llong fferi bach yn cysylltu Abermaw â Phwynt Penrhyn; oddi yno gellir dal un o drênau bach Rheilffordd Fairbourne (neu'r Friog) i gyfeiriad Tywyn.

 
Golygfa o Abermaw, 1778
 
Harbwr Abermaw

Atyniadau yn y cylch

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abermaw (pob oed) (2,522)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abermaw) (1,005)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abermaw) (1227)
  
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Abermaw) (549)
  
44.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gallt y Bermo

golygu

Mae Gallt y Bermo yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Abermaw trwy luniau 1828 - 1978

golygu

Gwaith gwirfoddol wedi ei ymgymryd gan Hugh Griffith Roberts er budd "Abermaw: Cymdeithasau'n Gyntaf". Pobl y dref boed yn drigolion neu'n alltud sy'n sicrhau llwyddiant y gwaith [1].

Gweler hefyd

golygu

Eglwys Sant Tudwal, Abermaw

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]